Fy nosbarth Tsieinëeg cynta
Oct. 18th, 2024 02:17 pm![[personal profile]](https://www.dreamwidth.org/img/silk/identity/user.png)
Neithiwr, es i i ddosbarth Tsieinëeg Mandarin yn fy mhrifysgol! Rwy eisiau dysgu Tsieinëeg ers talwm, ac ro'n i wedi cyffroi iawn i fynd i'r wers.
Yn gynta, edrychon ni ar y tonau yn Tsieinëeg. Mae gyda Tsieinëeg bedwar tôn sy'n dangos codi/disgyn/ayyb yng nghywair y llafariad, ac un tôn niwtral. Dangosir nhw gydag acenion yn Pinyin (modd ysgrifennu Tsieinëeg yn y wyddor Lladin):
Dyma diagram er mwyn helpu deall a delweddu'r tonau (ffynhonnell):

Dwedodd ein athrawes wrthon ni beidio â becso gormod am y tonau ar hyn o bryd, ond rwy wastad eisiau gwneud popeth yn berffaith y tro cynta!
Wedyn, gwylion ni ganeuon Tsieinëeg ac yn dysgu ymadroddion syml.
Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu gramadeg Tsieinëeg yn y dyfodol. Rwy'n gwybod yn barod nad yw Tsieinëeg yn rhedeg berfau ar sail amser, ac mae diddordeb mewn dysgu mwy gyda fi. Hefyd, mae'r athrawes yn siarad Cymraeg, felly roedd e'n neis i ddefnyddio Tsieinëeg, Cymraeg, a Saesneg yn y dosbarth.

- ā - tôn 1, fflat ac uchel
- á - tôn 2, yn codi
- ǎ - tôn 3, yn disgyn ac wedyn yn codi
- à - tôn 4, yn disgyn
- a - tôn 5, niwtral
Dyma diagram er mwyn helpu deall a delweddu'r tonau (ffynhonnell):

Dwedodd ein athrawes wrthon ni beidio â becso gormod am y tonau ar hyn o bryd, ond rwy wastad eisiau gwneud popeth yn berffaith y tro cynta!
Wedyn, gwylion ni ganeuon Tsieinëeg ac yn dysgu ymadroddion syml.
- 你好 (nǐ hǎo) - helo
- 再见 (zàijiàn) - hwyl fawr
- 早上好 (zǎoshàng hǎo) - bore da
- 晚上好 (wǎnshàng hǎo) - noswaith dda
- 晚安 (wǎn'ān) - nos da
- 谢谢 (xièxiè) - diolch
- 不客气 (bú kèqi) - croeso (ymateb i "diolch")
- 对不起 (duìbùqǐ) - mae'n flin gyda fi, esgusoda fi
- 没关系 (méiguānxi) - paid â becso amdano fe, does dim ots
- 你姓什么? (nǐ xìng shénme?) - beth yw dy gyfenw?
- 你叫什么? (nǐ jiào shénme?) - beth yw dy enw cynta?
- 我姓 ... (wǒ xìng ...) - ... yw fy nghyfenw
- 我叫 ... (wǒ jiào ...) - ... yw fy enw cynta
- 中文 (zhōngwén) - Tsieinëeg
- 是 (shì) - bod
- 我 (wǒ) - fi
- 你 (nǐ) - ti
- 您 (nín) - chi
- 他 (tā) - fe (person)
- 她 (tā) - hi (person)
- 它 (tā) - fe, hi (eitem)
- 我的 (wǒde) - fy
Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu gramadeg Tsieinëeg yn y dyfodol. Rwy'n gwybod yn barod nad yw Tsieinëeg yn rhedeg berfau ar sail amser, ac mae diddordeb mewn dysgu mwy gyda fi. Hefyd, mae'r athrawes yn siarad Cymraeg, felly roedd e'n neis i ddefnyddio Tsieinëeg, Cymraeg, a Saesneg yn y dosbarth.
no subject
Date: 2024-10-18 02:56 pm (UTC)no subject
Date: 2024-10-20 12:40 pm (UTC)