smmg: (Default)
[personal profile] smmg
Neithiwr, es i i ddosbarth Tsieinëeg Mandarin yn fy mhrifysgol! Rwy eisiau dysgu Tsieinëeg ers talwm, ac ro'n i wedi cyffroi iawn i fynd i'r wers.

Yn gynta, edrychon ni ar y tonau yn Tsieinëeg. Mae gyda Tsieinëeg bedwar tôn sy'n dangos codi/disgyn/ayyb yng nghywair y llafariad, ac un tôn niwtral. Dangosir nhw gydag acenion yn Pinyin (modd ysgrifennu Tsieinëeg yn y wyddor Lladin):
  • ā - tôn 1, fflat ac uchel
  • á - tôn 2, yn codi
  • ǎ - tôn 3, yn disgyn ac wedyn yn codi
  • à - tôn 4, yn disgyn
  • a - tôn 5, niwtral

Dyma diagram er mwyn helpu deall a delweddu'r tonau (ffynhonnell):




Dwedodd ein athrawes wrthon ni beidio â becso gormod am y tonau ar hyn o bryd, ond rwy wastad eisiau gwneud popeth yn berffaith y tro cynta!

Wedyn, gwylion ni ganeuon Tsieinëeg ac yn dysgu ymadroddion syml.

  • 你好 (nǐ hǎo) - helo
  • 再见 (zàijiàn) - hwyl fawr
  • 早上好 (zǎoshàng hǎo) - bore da
  • 晚上好 (wǎnshàng hǎo) - noswaith dda
  • 晚安 (wǎn'ān) - nos da
  • 谢谢 (xièxiè) - diolch
  • 不客气 (bú kèqi) - croeso (ymateb i "diolch")
  • 对不起 (duìbùqǐ) - mae'n flin gyda fi, esgusoda fi
  • 没关系 (méiguānxi) - paid â becso amdano fe, does dim ots
  • 你姓什么? (nǐ xìng shénme?) - beth yw dy gyfenw?
  • 你叫什么? (nǐ jiào shénme?) - beth yw dy enw cynta?
  • 我姓 ... (wǒ xìng ...) - ... yw fy nghyfenw
  • 我叫 ... (wǒ jiào ...) - ... yw fy enw cynta
  • 中文 (zhōngwén) - Tsieinëeg
  • 是 (shì) - bod
  • 我 (wǒ) - fi
  • 你 (nǐ) - ti
  • 您 (nín) - chi
  • 他 (tā) - fe (person)
  • 她 (tā) - hi (person)
  • 它 (tā) - fe, hi (eitem)
  • (wǒde) - fy

Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu gramadeg Tsieinëeg yn y dyfodol. Rwy'n gwybod yn barod nad yw Tsieinëeg yn rhedeg berfau ar sail amser, ac mae diddordeb mewn dysgu mwy gyda fi. Hefyd, mae'r athrawes yn siarad Cymraeg, felly roedd e'n neis i ddefnyddio Tsieinëeg, Cymraeg, a Saesneg yn y dosbarth.
If you don't have an account you can create one now.
HTML doesn't work in the subject.
More info about formatting

Profile

smmg: (Default)
S.M. Mac Giolla Íosa Gilbert

June 2025

S M T W T F S
1 2 3 4 56 7
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930     

Tags

Style Credit

Powered by Dreamwidth Studios
Page generated Jun. 14th, 2025 07:36 am