smmg: a marble fox and a silver fox (Default)
[personal profile] smmg
fi wastad yn meddwl bo'r saesneg yn iaith glawstroffobig iawn. fydda i ddim yn gallu anghofio'r saesneg. os sai'n defnyddio'r gymraeg, bydda i'n anghofio hi.

o'n i'n nabod pobl a aeth i ysgolion cymraeg ac yn tyfu 'da'r iaith, ond do'n nhw ddim yn defnyddio hi ers hynny ac nawr so nhw'n gallu gweud dim byd. fi'n byw yng nghymru ond mae'n bosib bo' pobl yn gallu byw eu bywyde cyfan trwy'r saesneg 'da dim cymraeg o gwbl, ac ma 'na llawer o bobl yn neud hyn.

ond fydda i ddim yn gallu anghofio'r saesneg achos bo' saesneg ymhob man. sai'n gallu dianc o'r iaith 'na sy'n ddrychynllyd o fyglyd. ond fi'n teimlo fel fydda i ddim yn gallu'n rhydd o fogi yn y gymraeg erioed chwaith, na mewn ieithoedd fy nheulu, achos bo' saesneg yn fy iaith gynta, felly byddan nhw'n anghenedl ifi ac yn llai gyfforddus na fy iaith gynta. fi'n poeni y bydda i wastad yn teimlo'n lletchwith ynddyn nhw, a fydda i ddim yn teimlo fel fi'n gartre. ond sai'n gallu bod gartre yn saesneg chwaith. ma' iaith fel syniad yn gwasgu fi o bob cyfeiriad.

If you don't have an account you can create one now.
HTML doesn't work in the subject.
More info about formatting

Profile

smmg: a marble fox and a silver fox (Default)
S.T.M. Mac Giolla Íosa Gilbert

June 2025

S M T W T F S
1 2 3 4 56 7
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930     

Tags

Style Credit

Powered by Dreamwidth Studios
Page generated Jun. 11th, 2025 08:41 am