Gwersi Cernyweg
Dec. 6th, 2024 11:26 pmFi'n ystyried neud gwersi Cernyweg ar-lein y semester nesa... Tybed bydd hynny'n ormod o ieithoedd? Bydd dosbarthiadau Cymraeg a Hen Wyddeleg yn y brifysgol a dosbarth nos Tsieinëeg 'da fi'n barod. Fydda i'm yn neud Gwyddeleg Modern y semester nesa, ond hoffwn i ddal i ddysgu hi ar fy mhen fy hun.