Entry tags:
Fi'n rhugl??
bob tro bo' fi'n siarad â rhywun yn gymraeg, maen nhw'n gweud bo' fi'n rhugl a sa i byth yn credu nhw. ro'n i'n siarad â'r ymgynghorydd ariannol y bore 'ma a gwedais i wrtho fe bo' fi'n siarad cymraeg fel ail iaith a sai'n hyderus iawn o gwbl i siarad gyda phobl erill, a gwedodd e wrtho fi bo' fi'n swnio'n hollol rhugl ac ro'n i like,,,, ŷch chi'n siŵr,,,, sai'n teimlo fel fi'n rhugl o gwbl.